Cydnerthedd Amaethyddol ac Amgylcheddol i Gymru:

 

Papur Cefndir

Cyflwyniad

Diben y Papur hwn yw ysgogi dadl a thrafodaeth ymhlith aelodau’r gweithdy ynglŷn â chylch gorchwyl ar gyfer ymchwiliad i gydnerthedd amaethyddol ac amgylcheddol Cymru. Mae’n amlinellu rhai o’r prif faterion polisi a deddfwriaeth a oedd yn sail i benderfyniad y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd i gynnal y gweithdy.

Cefndir

Ers dechrau’r Cynulliad hwn, mae’r Pwyllgor wedi gwneud gwaith ar ystod eang o bynciau o fewn ei gylch gwaith; ynni, cynllunio, y Polisi Amaethyddol Cyffredin, y Polisi Pysgodfeydd Cyffredin, sefydlu Cyfoeth Naturiol Cymru, dŵr, y diwydiant cig coch, effeithiau tywydd gwael, amddiffyn y glannau ac amgylchedd y môr. Mae wedi dod yn amlwg i’r Pwyllgor mai’r themâu cyffredin sy’n codi o’r gwaith hwn yw’r cyd-ddyhead i gryfhau cydnerthedd Cymru a’r awydd i weld camau a phrosiectau ymarferol yn cael eu rhoi ar waith ar lawr gwlad i wireddu’r uchelgais hwn.

Mae nifer o ddigwyddiadau ar lefel yr UE ac yn y gwledydd hyn yn golygu ei bod yn adeg arbennig o briodol i ni yn awr gynnal ymchwiliad o'r fath.Mae effeithiau’r tywydd gwael yn ddiweddar, canfyddiadau diweddar ynghylch cyflwr bioamrywiaeth yng Nghymru a’r trafodaethau ynghylch cynnwys y Polisi Amaethyddol Cyffredin diwygiedig wedi canolbwyntio’r meddwl ar uchelgais Cymru ar gyfer rheoli tir yn y dyfodol a’r dulliau a fydd ganddi i gyflawni hyn.

Isod, rhestrir rhai meysydd polisi pwysig y gallai’r aelodau eu hystyried wrth lunio’u barn am y cylch gorchwyl posibl ar gyfer gwaith y Pwyllgor yn y maes hwn. Nid yw'r rhestr hon yn un gynhwysfawr o bell ffordd, ond gobeithio y bydd yn fan cychwyn defnyddiol ar gyfer trafodaethau’r gweithdy.

Y Prif Faterion

Newid yn yr Hinsawdd

Cyhoeddodd Llywodraeth flaenorol Cymru Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn 2010[1], ynghyd â'i chynlluniau cyflawni ar gyfer lleihau allyriadau[2] ac ymaddasu.[3] Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn datblygu Cynlluniau Ymaddasu Sectorol ar gyfer nifer o sectorau, ac un o’r rheini yw’r amgylchedd naturiol.[4]

Mae Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i leihau nwyon tŷ gwydr dri y cant y flwyddyn o 2011 ymlaen, mewn meysydd lle y datganolwyd cymhwysedd (o gymharu â gwaelodlin allyriadau cyfartalog 2006-10), a sicrhau gostyngiad o 40 y cant fan leiaf yn yr holl allyriadau nwyon tŷ gwydr yng Nghymru erbyn 2020 (o gymharu â gwaelodlin 1990).[5]

Amaethyddiaeth a defnydd tir sy’n gyfrifol am 18 y cant o’r allyriadau sy’n berthnasol i’r targed lleihau allyriadau 3 y cant[6] ac mae’r Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleihau Allyriadau yn dweud y dylai 0.20 pwynt canran o’r targed hwnnw ddod o’r sector hwn.[7]

Mae Pwyllgor y Deyrnas Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd a Chomisiwn Cymru ar y  Newid yn yr Hinsawdd wedi adolygu cynnydd Llywodraeth Cymru o ran ei thargedau lleihau allyriadau. Mae Ail Adroddiad Blynyddol Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd (2013)[8] yn nodi:

¡    Bod Pwyllgor y Deyrnas Unedig wedi adrodd bod allyriadau o amaethyddiaeth a defnydd tir wedi lleihau 10 y cant yn ystod cyfnod y waelodlin[9],[10].

¡    Bod Pwyllgor y Deyrnas Unedig a Chomisiwn Cymru yn nodi’r diffyg cynnydd o ran cwblhau Cynlluniau Ymaddasu Sectorol.Mae Llywodraeth Cymru wedi cadarnhau y bydd ymaddasu, ar gyfer yr amgylchedd naturiol, yn cael ei ymgorffori yn ei Fframwaith Amgylchedd Naturiol ehangach ac yn y Bil Amgylchedd sydd ar y gweill.[11]

Bydd Llywodraeth Cymru yn cyhoeddi Adroddiad Cynnydd ar y Strategaeth ar y Newid yn yr Hinsawdd yn hydref 2013, a bydd hwnnw’n adrodd ynghylch i ba raddau y cyflawnwyd y targed i ostwng allyriadau dri y cant.[12]

Cynhyrchiant Amaethyddol

Mae amgylchiadau heriol dros y deuddeng mis diwethaf wedi effeithio ar gynhyrchiant amaethyddol yng Nghymru, yn enwedig ar gynhyrchwyr da byw yn ardaloedd mwy ymylol yr ucheldir.

Incwm net cyfartalog ffermydd ar ddaliadau defaid a gwartheg mewn Ardaloedd Llai Ffafriol yng Nghymru oedd £16,300 fesul fferm yn 2010-11; gostyngiad o 39 y cant ers 2009-10. Ar y llaw arall, incwm net cyfartalog ffermydd ar ddaliadau defaid a gwartheg yn iseldir Cymru yn 2010-11 oedd £22,900, sef gostyngiad o 5 y cant ers y flwyddyn flaenorol.[13]

Oherwydd tywydd gwael a chyfraddau cyfnewid anffafriol yn 2012, roedd prisiau ŵyn yn anwadal ac roedd hynny’n her i gynhyrchwyr; fodd bynnag, ar gyfartaledd,  dyma’r prisiau uchaf ond un i gael eu cofnodi erioed.[14] Parhau i gynyddu wnaeth costau cynhyrchu ym mhob rhan o’r diwydiant, a’r hyn a gyfrannodd fwyaf at hynny oedd bwyd a phorthiant (i ŵyn), ynni, peiriannau, cyllid a chostau cyffredinol y fferm[15].

Ym mis Mawrth a mis Ebrill 2013 effeithiwyd ar ffermydd ar draws y gogledd a’r canolbarth yn sgil tywydd gwael gan gynnwys eira trwm a lluwchfeydd. Yn sgil hyn collwyd nifer sylweddol o ddefaid ac ŵyn.

Darparwyd pecyn cymorth i’r diwydiant gan Lywodraeth Cymru, gan gynnwys rhanddirymiad dros dro i ganiatáu i ffermwyr gladdu da byw ar y fferm o dan rai amodau, ymestyn oriau arferol gweithredu cwmnïau stoc trig a £500,000 i elusennau ffermio i gefnogi gwaith bugeiliol a chynghori ac i helpu ffermwyr gyda’r cynnydd yng nghost porthiant i’w hanifeiliaid[16] [17].

Yn ogystal, comisiynodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd adolygiad o gydnerthedd ehangach y diwydiant amaethyddol yng Nghymru a disgwylir i’r canfyddiadau dros dro gael eu cyhoeddi cyn toriad y Cynulliad yn yr haf a’r adroddiad terfynol ym mis Tachwedd 2013[18].

Digwyddiadau eraill eleni a gafodd gryn sylw ac sydd wedi amharu ar y diwydiant da byw oedd y sgandal halogi cynhyrchion cig eidion ledled Ewrop, a chau lladd-dy Welsh Country Foods ar Ynys Môn, sef y prif gyfleuster prosesu ŵyn yn y gogledd a oedd yn cyflogi dros 300 o bobl[19].

Eleni, mae’r Pwyllgor wedi cynnal ymchwiliadau i halogi cynhyrchion cig eidion ac effaith y tywydd difrifol ar y diwydiant amaethyddol, ac mae wedi cynnal trafodaeth bord gron gyda rhanddeiliaid ynghylch materion cyffredinol sy'n effeithio ar y diwydiant cig coch.

Bioamrywiaeth

Yn 2010, cynhaliodd Pwyllgor Cynaliadwyedd y Cynulliad blaenorol ymchwiliad i pam mae Cymru wedi methu â chyrraedd ei thargedau bioamrywiaeth ar gyfer 2010[20] Gwnaeth y Pwyllgor Cynaliadwyedd nifer o argymhellion gyda’r nod o sicrhau y byddai Cymru’n cyflawni ei thargedau ar gyfer 2020 i atal colledion bioamrywiaeth ac i adfer unrhyw gynefinoedd a rhywogaethau cyn belled ag y bo modd. Roedd yr argymhellion yn cynnwys gofyn i Lywodraeth Cymru:sicrhau bod ei hadrannau’n datblygu eu his-dargedau eu hunain ar gyfer atal colledion bioamrywiaeth; adolygu effaith Glastir ar fioamrywiaeth; symleiddio trefniadau ariannu'r sector cyhoeddus drwy grantiau ar gyfer prosiectau bioamrywiaeth; defnyddio cyllidebau adrannol presennol i sicrhau mwy nag un canlyniad, megis gwella iechyd drwy helpu pobl i fwynhau eu hamgylchedd lleol; gwella'r sylfaen data a thystiolaeth; a defnyddio deddfwriaeth i orfodi dyletswydd ar gyrff perthnasol i hybu bioamrywiaeth.Derbyniwyd llawer o’r argymhellion hyn gan Lywodraeth Cymru ar y pryd.

Yn fwy diweddar, wrth ymateb i’r Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur, cyhoeddodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, Alun Davies:y byddai Bwrdd Strategaeth Bioamrywiaeth yn cael ei greu er mwyn nodi blaenoriaethau newydd a chlir ar gyfer gweithredu ym maes bioamrywiaeth yng Nghymru; y cynhelid uwchgynhadledd bioamrywiaeth yn y Sioe Frenhinol ym mis Gorffennaf, ac y byddai archwiliad yn cael ei gynnal o’r dystiolaeth a’r data sydd ar gael eisoes.[21]

Y Dull Ecosystemau

Ym mis Ionawr 2012, cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ymgynghoriad ar gynigion i ddatblygu fframwaith newydd ar gyfer rheoli amgylchedd Cymru drwy reoli adnoddau naturiol ar sail dull ecosystemau.[22] Dywedodd Llywodraeth Cymru, y byddai ymgorffori’r dull hwn:

…yn sicrhau bod gan Gymru ecosystemau sy’n fwyfwy gwydn ac amrywiol, sy’n cynnig manteision economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yn awr ac yn y dyfodol.[23]

Dywedodd y Llywodraeth y bydd angen dulliau rheoli cyfannol, dulliau rheoleiddio integredig, rheoli ar raddfa ofodol a gwaith partneriaeth er mwyn gwneud hyn. I gyflawni hyn, ymrwymodd Llywodraeth Cymru i wella’r dystiolaeth am ecosystemau Cymru a’n dealltwriaeth ohonynt, treialu dulliau sy’n seiliedig ar ecosystemau wrth reoli adnoddau lleol a symleiddio a chydblethu'r prosesau sydd eisoes ar gael ar gyfer rheoli adnoddau naturiol.Yn fwy diweddar, gofynnodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd, yn ei lythyr cylch gwaith at Cyfoeth Naturiol Cymru, i’r corff hyrwyddo’r dull ecosystemau[24] ac yn ei ymateb i'r adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur, soniodd am gyfleoedd ar gyfer marchnadoedd newydd i wasanaethau amgylcheddol.[25]

Yn 2009, yn ei adroddiad ar Ddyfodol Ucheldir Cymru, daeth Is-bwyllgor Datblygu Gwledig y Cynulliad i’r casgliad bod cysylltiad annatod rhwng dyfodol rheoli ucheldir Cymru a thalu i ffermwyr a rheolwyr tir am y nwyddau amgylcheddol nad oeddent yn nwyddau marchnad y gallent eu darparu:

Bydd hyfywedd economaidd, amgylcheddol a chymdeithasol yr ucheldir yn dibynnu fwyfwy ar dalu i reolwyr tir am wasanaethau amgylcheddol’.[26]

Daeth yr Adroddiad i’r casgliad bod angen symud y tu hwnt i’r syniad o dalu i ffermwyr am weithredu ar sail costau yr oeddent yn eu hysgwyddo ac incwm yr oeddent yn ei golli fel sy’n digwydd gyda chynlluniau amaeth-amgylcheddol ar hyn o bryd, gan annog buddsoddiad gan y sector preifat i ddarparu nwyddau a gwasanaethau ecosystemau. Canfu Pwyllgor Cynaliadwydd y trydydd Cynulliad fod rhywfaint o’r egwyddorion hyn yn wir, nid yn unig am ucheldir Cymru, ond am reoli tir ym mhob ardal.[27]

Fodd bynnag, canfu Asesiad Cenedlaethol y Deyrnas Unedig o Ecosystemau yn 2011 fod 30 y cant o’r holl wasanaethau ym mhob ecosystem yn y Deyrnas Unedig yn dirywio tra bo eraill, megis ansawdd y pridd wedi’u diraddio.

Dulliau cyflawni: Diwygio'r Polisi Amaethyddol Cyffredin a’r agenda ddeddfwriaethol

Bydd canlyniad trafodaethau Diwygio’r PAC yn effeithio’n fawr ar ddiwydiant amaethyddol ac amgylchedd Cymru. Wrth symud oddi wrth daliadau sy’n seiliedig ar y sefyllfa hanesyddol i daliadau sy’n seiliedig ar ardal, bydd y cymorth incwm uniongyrchol yn cael ei ailddosbarthu rhwng ffermydd yng Nghymru a bydd hyn yn effeithio ar gydnerthedd rhai busnesau fferm.Ni wyddys yn union beth fydd effeithiau’r mesurau ar daliadau gwyrdd ond bydd gofyn newid Glastir, y cynllun amaeth-amgylcheddol presennol. Mae’r Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd eisoes wedi ymrwymo i adolygu Glastir yng ngoleuni canlyniadau’r trafodaethau ynghylch Diwygio’r PAC.[28]

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi ymgynghori ynghylch cynlluniau cyffredinol a chynigion ar gyfer y cynllun datblygu gwledig nesaf i Gymru sy’n debygol, yn y tymor byr o leiaf, o fod yn brif ffynhonnell ariannol ar gyfer rheoli tir mewn ffordd gynaliadwy yng Nghymru.[29] Gwyddys eisoes fod y cytundeb ynghylch fframwaith ariannol amlflwydd yr UE yn golygu y bydd llai o arian ar gael ar gyfer y cynllun datblygu gwledig yn ystod y saith mlynedd nesaf.

Yng Nghymru, mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i gyhoeddi Bil Amgylchedd a allai gynnwys cynigion a fyddai’n help i roi dull ecosystemau ar waith yng Nghymru. Dywedodd y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd y gallai Bil Amgylchedd yn y dyfodol gynnig llwyfan ar gyfer ffyrdd newydd o reoli tir a dŵr ac ar gyfer cynhyrchu marchnadoedd i wasanaethau amgylcheddol ac incwm yn eu sgil.[30] Disgwylir y caiff Papur Gwyn y Bil ei gyhoeddi yn hydref 2013. Mae Llywodraeth Cymru hefyd wrthi’n datblygu Biliau Cynllunio a Datblygu Cynaliadwy.

Themâu posibl i’w trafod

Mae’r cwestiynau canlynol yn cwmpasu rhai themâu cyffredinol y mae’r Pwyllgor wedi bod yn ymchwilio iddynt. Nid yw hon yn rhestr gynhwysfawr ac fe’i cynhwysir i ysgogi syniadau cyn y gweithdy.

¡    Beth yw’r prif ysgogiadau y mae angen i ni eu hystyried o ran y peryglon sy’n wynebuu’r sector amaethyddiaeth ac amgylcheddol yng Nghymru ar hyn o bryd?

¡    Peth yw’r prif ddulliau ar gyfer cynyddu cydnerthedd cymdeithasol, economaidd ac amgylcheddol tir amaethyddol a thir gwledig ehangach Cymru?

¡    Pa fath o gydweledigaeth y dylem ei chreu o ran tir amaethyddol a thir gwledig?

¡    Sut y gellir gwella cydnerthedd dros 5, 10 ac 20 mlynedd a pha bolisïau y dylid eu rhoi ar waith i wneud hynny?

¡    Beth yw cyfyngiadau a chyfleoedd polisi cyhoeddus a sut y gellir ysgogi’r sector preifat a’r sector dinesig i wella cydnerthedd? Sut y gallwn ddatblygu poblogaeth ffermio hyfyw sy’n gallu cyfrannu at anghenion y cyhoedd?

 

 



[1] Llywodraeth Cymru, Pynciau, Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad, Newid yn yr Hinsawdd, Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd 2010 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[2]  Llywodraeth Cymru, Pynciau, Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad, Newid yn yr Hinsawdd, Cynllun Cyflawni ar gyfer Lleihau Allyriadau , 2010 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[3]  Llywodraeth Cymru, Pynciau, Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad, Newid yn yr Hinsawdd, Cynllun Cyflawni ar gyfer Ymaddasu, 2010 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[4]Llywodraeth Cymru, Pynciau, Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad, Newid yn yr Hinsawdd, Paratoi Cymru ar gyfer Hinsawdd sy’n Newid, Sut mae Cymru’n Paratoi, Cynlluniau Ymaddasu Sectorol [fel ar 20 Mehefin 2013].

[5] Llywodraeth Cymru, Pynciau, Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad, Newid Hinsawdd Strategaeth Cymru ar y Newid yn yr Hinaswdd 2010, t 34 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[6] Y Pwyllgor ar Newid Hinsawdd, Progress Reducing Emissions and Preparing for Climate Change in Wales 2013, t31 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[7] Llywodraeth Cymru, Pynciau, Yr Amgylchedd a Chefn Gwlad, Newid Hinsawdd Cynllun cyflawni ar gyfer Lleihau Allyriadau 2010, t 3 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[8] Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, Llyfrgell  Climate Change Commission for Wales Second Annual Report, 2013 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[9] Mae adroddiad Pwyllgor y Deyrnas Unedig ar y Newid yn yr Hinsawdd yn dadansoddi tueddiadau o ran allyriadau yn 2010 o’u cymharu â data’r waelodlin, gan gynnwys dangosyddion fframwaith dangosyddion Llywodraeth Cymru.

[10] Comisiwn Cymru ar y Newid yn yr Hinsawdd, Llyfrgell, Climate Change Commission for Wales Second Annual Report, 2013 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[11] Ibid, t10 a t15

[12] Ibid, t5

[13] Hybu Cig Cymru, Cynllun Corfforaethol ar gyfer Hybu Cig Cymru (HCC) 2012-2015[fel ar 20 Mehefin 2013]

[14] Hybu Cig Cymru, Bwletin y Farchnad HCC, Ionawr 2013,[fel ar 20 Mehefin 2013]

[15] Hybu Cig Cymru Cyhoeddiadau, Datblygu Ffermio a’r Diwydiant, Costau Cynhyrchu[fel ar 20 Mehefin 2013]

[16]Alun Davies AC, Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd. Datganiad Ysgrifenedig – Mynd i’r afael ag effaith y tywydd garw ar gymunedau ffermio, 16 Ebrill 2013 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[17]Alun Davies AC, Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd. Datganiad Ysgrifenedig – Mynd i’r afael ag effaith y tywydd garw, 23 Ebrill 2013 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[18] Alun Davies AC, Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd Datganiad Ysgrifenedig – Cydnerthedd amaethyddiaeth yng Nghymru, 22 Mai 2013 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[19] Vion Food Group, Newyddion a’r Wasg Welsh Country Foods Announces Site at Risk of Closure 11 Ionawr 2013, [fel ar 20 Mehefin 2013]

[20] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Y Pwyllgor Amgylchedd a Chynaliadwyedd, Ymchwiliad i Fioamrywiaeth yng Nghymru, Ionawr 2011 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[21] Llywodraeth Cymru, Alun Davies, (Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd), Y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio ac ymateb i’r Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur, (Datganiad Llafar) 4 Mehefin 2012 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[22] Llywodraeth Cymru, Cymru Fyw, Ionawr 2012 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[23] ibid

[24] Llywodraeth Cymru, Llythyr Cylch Gwaith 2013-14 Cyfoeth Naturiol Cymru,Mawrth 2013 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[25] Llywodraeth Cymru, Alun Davies, (Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd), Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio ac ymateb i’r Adroddiad ar Sefylla Byd Natur, (Datganiad Llafar) 4 Mehefin 2012 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[26] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Is-bwyllgor Datblygu Gwledig Dyfodol Ucheldiroedd, Ebrill 2010 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[27] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Pwyllgor Cynaliadwyedd, Ymchwiliad i Fioamrywiaeth yng Nghymru, Ionawr 2011 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[28] Cynulliad Cenedlaethol Cymru, Cofnod y Trafodion,(16:24pm) [fel ar 20 Mehefin 2013]

[29] Llywodraeth Cymru, Cynllun Datblygu Gwledig 2-14-2020: Y Camau Nesaf  [Ionawr 2013 [fel ar 20 Mehefin 2013]

[30] Llywodraeth Cymru, Alun Davies, (Y Gweinidog Adnoddau Naturiol a Bwyd), Y Cynllun Gweithredu ar gyfer Pryfed Peillio ac ymateb i’r Adroddiad ar Sefyllfa Byd Natur(Datganiad Llafar) 4 Mehefin 2012 [fel ar 20 Mehefin 2013]